Eco Bwyllgor
Croeso i dudalen yr Eco Bwyllgor. Rydym wedi derbyn y Faner Blatinwm a nawr yn parhau i weithio yn galed i edrych ar ol ein
hamgylchedd er mwyn cadw ein statws Blatinwm.
Rydym ni aelodau'r Eco Bwyllgor a gweddill y disgyblion wedi cwblhau Adolygiad Amgylcheddol i weld beth y
medrwn ei wneud i wella ein hysgol a'r amgylchedd.
Dyma dargedau yr Eco bwyllgor eleni:
1. Codi ymwybyddiaeth a lleihau defnydd o blastig.
2. Cynnal Wythnos Eco Byd-eang.
3. Adnewyddu ein statws fel Ysgol Fasnach Deg.
Côd Ecosgolion Ysgol Carreg Emlyn
- Compostiwch
- Ydych chi yn prynu Masnach Deg?
- Neidiwch a sgipiwch.
- Ailgylchwch ac ailddefnyddiwch.
- Lol ydy gwastraffu.
- Iechyd sy’n bwysig.
- Arbedwch ddwr.
- Diffoddwch y golau a’r cyfrifiaduron.
- Wedyn bwytewch fwyd lleol
- Ymdrechwch i fod yn GYNALIADWY
Lawrlwythwch:
•
Cyngor Eco
Cysylltu |
Contact
Ysgol Carreg Emlyn,
Clocaenog,
Rhuthun,
Sir Ddinbych,
LL15 2AY
Ysgol Carreg Emlyn © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs